27/06/2013

Cyfleoedd I Awduron, Artistiaid Gweledol, Gwneuthurwyr Ffilm A Cherddorion Sy’n Gweithio Yng Nghymru

Mae Dylanwad yn chwilio am ysgrifenwyr ac artistiaid i gynnal gweithdai thematig ar Dylan Thomas drwy Gymru gyfan
Beth yw prosiect Dylanwad?I nodi canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014, mae Llenyddiaeth Cymru, gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd o’r enw Dylanwad. Fel rhan o ddathliadau DT100 bydd y prosiect a gefnogir gan Yr Adran Addysg a Sgiliau yn cyflwyno byd hudolus Dylan Thomas i ysbrydoli plant a phobl ifainc Cymru.
Mae Dylanwad yn chwilio am awduron, artistiaid gweledol, gwneuthurwyr ffilm a cherddorion i gynnal gweithdai thematig ar Dylan Thomas yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Dylanwad yn galw am awduron ac artistiaid i gynnal y gweithdai canlynol drwy Gymru gyfan:
1. Cyfleoedd i awduron - gweithdai ysgrifennu creadigol - un awr
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am dîm o 40 o awduron i gynnal gweithdai, awr o hyd ar gyfer cyfnod allweddol 2, 3 a 4 drwy Gymru gyfan. Wedi eu dyfeisio gan Ganolfan Peniarth, cynhelir y gweithdai drwy Gymru gyfan yn y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio strwythur presennol Awduron ar Daith
Bydd y gweithdai yn adlewyrchu gofynion cwricwlwm Cymru, gan gynnwys rhai'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd pob gweithdy yn cael ei gynllunio ar gyfer cyfnod allweddol penodol, gan sicrhau darpariaeth berthnasol ac addas ar gyfer dysgu gwahaniaethol a chaniatáu rhyddid i blant a phobl ifainc i archwilio a thrafod.
Bydd pob gweithdy yn cyflwyno cymeriadau, hanesion, themâu, barddoniaeth a rhyddiaith Thomas. Bydd pob disgybl sydd yn cymryd rhan yn creu barddoniaeth, rap neu geiriau i ganeuon gwreiddiol. Bydd gweithdy cyfnod allweddol 4 / dros 14 oed, yn cael ei gysylltu yn benodol gyda gofynion ysgrifennu creadigol cwrs TGAU Cymraeg a Llenyddaieth Saesneg. Mae gwybodaeth am (neu awydd cryf i ddysgu am) waith Dylan Thomas yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.
Sut i ymgeisio?• I ymgeisio, anfonwch CV a datganiad byr (dim mwy na 300 o eiriau) am pam yr hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pwnc: ‘Gweithdy ysgrifennu creadigol un awr’• Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Awst 2013.
• Telir ffi o £130 am gynnal y gweithdai un awr (am bob gweithdy unigol, gan gynnwys costau teithio). Bydd Llenyddiaeth Cymru bob amser yn ceisio paru ysgol gydag awdur sydd yn lleol i’r ardal i sicrhau'r lleiafswm o deithio.
• Bydd angen i awduron fod ar gael i wneud lleiafswm o 40 gweithdy’r flwyddyn rhwng Hydref 2013 a Mehefin 2014.
• Bydd diwrnod hyfforddi i’r awduron a ddewiswyd yn cael ei gynnal gyda Chanolfan Peniarth yn yr wythnos sy’n dechrau 9 Medi 2013.  Telir ffi o £150 i’r awduron ar gyfer y diwrnod hyfforddi (yn cynnwys costau teithio).• Noder os gwelwch yn dda bod yna bosibilrwydd y byddwn yn gofyn i chi fynychu cyfweliad anffurfiol (gellir cynnal hwn trwy gyfrwng Skype).

2. Cyfleoedd i awduron, artisitiaid gweledol, gwneuthurwyr ffilm a cherddorion - sesiynau diwrnod traws-gelfyddydol
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am dîm fydd yn cynnwys 10 o awduron, artistiaid gweledol, gwneuthurwyr ffilm a cherddorion sydd yn gweithio yng Nghymru i gynnal sesiynau diwrnod traws-gelfyddydol mewn ysgolion drwy Gymru gyfan. Bydd y gweithdai thematig yma ar waith Dylan Thomas yn cael eu hanelu at blant difreintiedig a dan anfantais o gyfnod allweddol 3 a 4 (oed 11-16). Bydd Adran Celf a Dylunio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn creu canllawiau’r gweithdy, ond bydd disgwyl i'r tîm o artistiaid i ddatblygu a chyflwyno’r gweithdai hyn, gan adlewyrchu eu maes ymarfer celfyddydol.
Bydd y sesiwn diwrnod yn ffocysu ar ddatblygu syniadau llenyddol yn hytrach na’r ymarfer o ysgrifennu creadigol trwy brosesau creadigol traws-gelfyddydol. Bydd pob sesiwn yn cael ei redeg gan gyfuniad o ddau awdur, artist gweledol, gwneuthurwr ffilm a cherddor. Bydd cymeriadau, hanesion, themâu, barddoniaeth a rhyddiaith Dylan Thomas a’i hoffter o ffilm yn cael eu defnyddio fel man cychwyn, ond bydd pob person ifanc yn gallu dehongli'r rhain trwy amrywiaeth o gyfryngau. Unwaith eto, bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y sesiynau diwrnod yn cael eu cynnig i 35 ysgol ar sail ei ymrwymiad gyda phobl ifanc difreintiedig a dan anfantais. Mae gwybodaeth am (neu awydd cryf i ddysgu am) waith Dylan Thomas yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.
Sut i ymgeisio?• I ymgeisio, anfonwch CV a datganiad byr (dim mwy na 300 o eiriau) am pam yr hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pwnc: ‘Sesiwn diwrnod traws-gelfyddydol’• Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Awst 2013.
• Telir ffi o £250 am wneud sesiwn diwrnod traws-gelfyddyd (y gweithdy, yn cynnwys costau teithio).
• Cynhelir y gweithdai hyn rhwng mis Hydref 2013 a mis Mehefin 2014.
• Cynhelir diwrnod hyfforddi i arweinwyr y gweithdai dethol ar gampws Caerfyrddin, Y  Drindod Dewi Sant ar 11 Medi 2013. Telir ffi o £150  am fynychu'r diwrnod hyfforddi (yn cynnwys costau teithio).• Noder os gwelwch yn dda bod yna bosibilrwydd y byddwn yn gofyn i chi fynychu cyfweliad anffurfiol (gellir cynnal hwn drwy gyfrwng Skype).

3.  Cyfleoedd i Awduron - gweithdai ysgrifennu creadigol
Dychmygwch bêl yn disgleirio ac yn cynnwys geiriau anfarwol Dylan Thomas; wedi ei chyplysu â barddoniaeth a cherddoriaeth plant heddiw sydd â diddordeb mewn technoleg.
Fel rhan o ddathliadau Canolfan Mileniwm Cymru; rydym yn bwriadu cynhyrchu darn o gelf fydd wedi ei guradu gan Gwyneth Lewis a chyfansoddwr arall (i’w gadarnhau).

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn chwilio am dîm o 8 awdur sydd yn gweithio yng Nghymru i gynnal gweithdai ar gyfer myfyrwyr cyfnod allweddol 3 mewn ysgolion ar draws Cymru. Bydd 17 o ysgolion yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y prosiect. Bydd 7 awdur yn gweithio gyda grwpiau gwahanol o fyfyrwyr i ysgrifennu gwaith gwreiddiol yn seiliedig ar amryw o themâu o waith Dylan Thomas. Bydd yr 8fed awdur yn gweithio gyda phob ysgol sydd yn cymryd rhan i weithio gyda myfyrwyr ar sgiliau blogio ac yn gofyn y cwestiwn ‘beth fyddai fel i fod yn Dylan Thomas yn ein cyfnod ni’. Mae gwybodaeth am (neu awydd cryf i ddysgu am) waith Dylan Thomas yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.

Prosiect Canolfan Mileniwm Cymru  yw Y Bêl a Deflais mewn cydweithrediad gyda Tŷ Cerdd a Llenyddiaeth Cymru ac wedi ei guradu gan Gwyneth Lewis.
Sut i ymgeisio?• I ymgeisio, anfonwch CV a datganiad byr (dim mwy na 300 o eiriau) am pam yr hoffech gymryd rhan yn y prosiect hwn trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org gyda’r pwnc: ‘Y Bêl a Deflais’• Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Awst 2013.
• Telir ffi o £250  am wneud sesiwn diwrnod traws-gelfyddyd (y diwrnod, yn cynnwys costau teithio). Rydym yn rhagweld bydd pob awdur yn treulio 1 niwrnod gyda phob grŵp (rhwng 1 – 4 i bob awdur) a bydd yr awdur blogio yn treulio un niwrnod gyda phob grŵp (hyd at 17 diwrnod).
• Cynhelir y gweithdai hyn rhwng mis Ionawr 2014 a mis Gorffennaf 2014.
• Cynhelir diwrnod hyfforddi i’r awduron ddydd Gwener 18 Hydref (gallwn gynnig yr un ffi ag uchod).

Gallwch anfon cais cyfunol am yr holl weithdai neu gellir gwneud cais am un yn unig.
Bydd gwefan swyddogol Dylanwad yn cael ei lansio yma ym mis Gorffennaf 2013. Yn y cyfamser, dilynwch ddatblygiadau'r prosiect ar Twitter: @Dylanwad100 neu darllenwch y stori newyddion yma.

Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n ffurfio rhan o ddathliadau DT100



No comments:

Post a Comment