Mae’n anodd credu mai dim ond blwyddyn yn ôl doeddwn i erioed wedi clywed sôn am - heb sôn am gyfarfod - y canwr ghazal o Mumbai o’r enw Tauseef Akhtar. Bellach rydan ni’n hen lawiau ac yn paratoi i rannu albym o’n cerddoriaeth efo’r byd.
Digwyddodd y cyfarfyddiad ffodus drwy yr arbenigwr mastro a’n cyfaill cyffredin, Donal Wheelan. Gyda symbyliad a chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, daeth Tauseef draw i dreulio wythnos yn Nhŷ Crwn Donal yn Sant Hilari, Bro Morgannwg. Yno y buon ni’n dau yn rhannu caneuon a barddoniaeth efo’n gilydd, gan ddysgu ac amsugno cyfoeth ein dau ddiwylliant. Mae Tauseef yn canu ffurf hynafol o farddonaieth o’r enw Ghazal, sydd wedi ei wreiddio mewn barddoniaeth Arabaidd o’r 6ed ganrif. Darllenai Tauseef gwpledi o farddoniaeth Ghazal o lawysgrifau personol ei dad (ac ambell un oddi ar ei ipad!) Buan iawn y dechreuodd y themâu a’r delweddau fy atgoffa o alaw werin Gymreig, neu ryw hen bennill neu gilydd. Awn innau ati wedyn i chwilota yng nghasgliad T.H. Parry Williams o hen benillion, neu fy nghof fy hun, a chanfod y pennill oedd wedi canu cloch. Yna, dechreuai Tauseef fyr-fyfyrio ar ei harmoniwm i ganfod alaw ar gyfer ei Ghazal; deuai alaw arall i minnau wrth imi wau yr hen benillion o’i chwmpas ar y gitâr. Erbyn y diwrnod cyntaf roedd ganddon ni gân orffenedig, ac yn bwysicach, y teimlad hwnnw fod rhywbeth arbennig - rhywbeth unigryw a chyffrous - ar droed.
Ers yr wythnos honno o hydref yn y Tŷ Crwn mae’r cywaith wedi tyfu cyn dipyn. Roedd y ddau ohonon ni’n teimlo bod angen offerynwyr eraill i ddod â’r caneuon i’w llawn botensial. Gyda chefnogaeth pellach Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a’u parodrwydd i weld y cysylltiad yma’n dwyn ffrwyth, ymunodd y delynores Georgia Ruth Williams â mi ar daith i Mumbai ym mis Tachwedd 2012, pan y treulion ni wythnos yn datblygu’r caneuon gyda Tauseef a thri o gerddorion mwya blaengar India: Manas Kumar a’i ffidil, Ashish Jha ar y tabla a Sanjoy Das ar y gitar. Uchwfbwynt yr wythnos oedd perfformio mewn dwy o ŵyliau cerddorol mwyaf India, sef y Desert Festival, Delhi, a chynhadledd IndiEarth Exchange yn Chennai.
Ar ôl profi ymateb mor gynnes a theimladwy i’r gerddoriaeth, roedd Tauseef a minnau ar dân i recordio’r caneuon. Gwnaed hynny’n bosib gan gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a chan nawdd hael gan gwmni Air India. Dros bum niwrmod rhewllyd o eira trwm (ac annwyd trymach!) rhywsut neu gilydd fe lwyddom i ail-greu gwres a naws y stafell dywyll yn Mumbai ble y buom yn cyd-greu. Roedd dod â’r caneuon yn ôl i’w tarddiad yn y Tŷ Crwn yn brofiad hudolus. Dan adain y cynyrchydd Charlie Francis, dyma lwyddo i recorio’r ddeg cân fwy neu lai yn fyw, gan gadw at wreiddyn gwerinol y ddau draddodiad.
Pleser oedd cael perfformio’r gwaith am y tro cyntaf o flaen cynulleidfa yng Nghymru yn Neuadd Hoddinott, Canolfan y Mileniwm. Roedd yr ymateb hyd yn oed yn fwy brwdfrydig y tro hwn, a’r gynulleidfa wedi eu cyffroi gan y cyfuniad newydd, annisgwyl yma o ddau draddodiad hynafol.
Y gobaith rwan ydi dod â’r albym Ghazalaw at lygaid (a chlustiau) y byd.
Am fwy o wybodaeth ewch i http://www.wai.org.uk/asia/india/5536" Gwyneth Glyn, Mehefin 2013

No comments:
Post a Comment