23/08/2013

Theatrau Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno Martyn Joseph a Paper Aeroplanes




 Cyfle unigryw i weld dau o dalentau cerddorol Cymru yn ynddangos gyda'i gilydd am y tro cyntaf ar y daith yma....
 

Mae Martyn Joseph yn enwog ar draws y byd am ei grefft o ysgrifennu caneuon, pwˆ er ei berfformiadau, a’r ymateb emosiynol i’r weledigaeth ddyngarol mae ei ganeuon yn ei ysgogi. Mae Martyn yn gyfansoddwr a pherfformiwr sydd gan rywbeth I ddweud ac sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd ar ddwy ochr Cefnfor Iwerydd – fel mae ei deithiau mynych i Ogledd America yn dangos. Mae ei albymau yn denu canmoliaeth ac mae ei ddilynwyr – sy’n fythol
ehangu – yn cydnabod ac yn dathlu talent unigryw a chyflawn – sy’n berfformiwr hudolus.
www.martynjoseph.net


Paper Aeroplanes
Richard a Sarah – pâr sy wedi bod yn adeiladu ar y clod maen nhw wedi cael am eu cerddoriaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
No pretence , no artifice, just great, memorablesongs and a voice that’d charm a piranha”
Adam Walton BBC Wales.

Maen nhw wedi cael cefnogaeth gref gan BBC Radio Wales ac yn arwain y ffordd o ran y genhedlaeth newydd o berfformiwr acwstig.Eleni, maen nhw’n rhyddhau albwm newydd sbon “Little Letters” ar label Navigator.

Bydd y gyngerdd yn cydio ynoch chi ac yn eich pryfocio. Mae talent y tri chyfansoddwr/perfformiwr yma yn tanlinellu’r ffaith mai Cymru yw Gwlad y Gân o hyd.
www.paperaeroplanesmusic.com


Mi fydd Martyn Joseph a Paper Aeroplanes yn perfformio yn Muni Arts Centre, Rhondda Cynon Taf ar y 12 o Hydref 2013.

Am fwy o fanylion ewchi www.rct-arts.co.uk neu ffoniwch 08000 147111 i archebu tocynnau.



No comments:

Post a Comment