21/01/2013

Deg cerddor yn cael eu dewis ar gyfer prosiect newydd a chyffrous 10 Mewn Bws sy’n anelu i ail-ddehongli a datgyfrinio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru


Mae trac, mudiad datblygu gwerin Cymru, yn falch iawn i gyhoeddi’r deg cerddor tra gwahanol bydd yn cymryd rhan yn y prosiect newydd a chyffrous, 10 Mewn Bws, sy’n anelu i ail-ddehongli a datgyfrinio cerddoriaeth werin draddodiadol Cymru. 

Wedi’i dewis trwy broses cais agored, mae’r ‘10’ yn dod o gefndiroedd cerddorol eang, o roc, pop ac indi, i glasurol, gwerin a jazz, a rhyngddynt yn canu amryw o offerynnau, gan gynnwys y ffidil, trwmped, telyn, soddgrwth, bodhran, corn, ukulele, gitâr a hyd yn oed gamelan Java a’r llif cerddorol! Mae oedrannau’r deg yn amrywio o 20 i 37, ac yn eu plith mae Gwilym Bowen Rhys o’r band roc/pop Y Bandana, enillydd albwm y flwyddyn yng ngwobrau France 3 TV Lleuwen Steffan, hanner y grŵp “Beck Cymreig” John Mouse, Craig Chapman a’r delynores broffesiynol Gwen Mairi Yorke. 

Bydd 10 Mewn Bws yn cynnig y cyfle i’r ‘10’ i ddod at ei gilydd i ymchwilio i’w gwreiddiau cerddorol ac ail-ddehongli cerddoriaeth draddodiadol Gymreig mewn ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw, ac i gynulleidfaoedd cyfoes.

Bydd y prosiect yn rhannu’n dri chyfnod. Gan ddechrau gyda’r cyfnod ymchwil ym mis Chwefror, bydd y deg cerddor yn teithio o gwmpas Cymru yn ymweld ag archifau Sain Ffagan, a chasgliadau cerdd y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn cwrdd â rhai o ‘gynheiliaid y traddodiad’ ac ethnogerddolegwyr Cymru.

Wedi saib, bydd y cerddorion yn ailgynnull am wythnos ddwys o ysgrifennu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.

Byddant yn cael eu hannog i gydweithio i ail-ddadansoddi’r deunydd traddodiadol, yn ogystal â chyfansoddi gwaith newydd a fydd yn seiliedig ar y profiadau a gawsant yn ystod yr wythnos ymchwil. Ar ôl saib arall, bydd y grŵp cyfan yn ailgynnull i recordio albwm o’r holl ddeunydd a gynhyrchwyd. Ar ddiwedd y broses recordio, cynhelir cyngerdd fel rhan o daith a fydd yn mynd â’r gwaith newydd o gwmpas Cymru a thu hwnt, gobeithio, yn ystod 2014.


Dyma sydd gan Craig Chapman, un o’r ‘10’, i ddweud: 

“Dwi wir yn edrych ‘mlaen at ddod ag agwedd fodern i’n cerddoriaeth werin Gymreig, heb anghofio ein traddodiadau a’n treftadaeth sydd mor gryf o fewn ein sîn werin.”


Dyma a ddwedodd Swyddog Prosiect trac, Angharad Jenkins:

“Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi enwau’r 10 cerddor sy’n cymryd rhan yn y prosiect 10 Mewn Bws, ac mae’r ystod eang o sgiliau, profiadau, a chefndiroedd cerddorol o fewn y 10 yn wych. Bwriad y prosiect yw anadlu bywyd newydd i draddodiadau cerdd Cymru mewn ffyrdd cyfoes a chreadigol, a theimlaf mai’r 10 cerddor yma yw’r bobl iawn ar gyfer y dasg!” 

Gyda ffair fasnach cerddoriaeth y byd, WOMEX, yn dod i Gaerdydd ym mis Hydref eleni, mae’n arbennig o amserol hefyd – bydd 10 mewn Bws yn helpu i ddodi cerddoriaeth yng Nghymru yn y sbotolau rhyngwladol”.

Am fwy o wybodaeth am 10 Mewn Bws, ewch i wefan trac www.trac-cymru.org

No comments:

Post a Comment