Mae 'na noson werin Gymreig newydd yn dod i Gaerdydd! Ar y trydydd nos Fercher o bob mis bydd Cwpwrdd Nansi yn cyflwyno'r gorau o gerddoriaeth werin Gymraeg, ynghyd ag ambell gwestai gwadd o thu hwnt i Glawdd Offa. Ar ol i'r perfformiadau orffen, bydd na gyfle am sesiwn, felly dewch a'ch offerynnau, a'ch lleisiau gyda chi!
Pob mis bydd ein perfformwyr yn dewis tiwn a chan traddodiadol Gymreig i ychwanegu at 'repertoire' arbennig sesiynau Cwpwrdd Nansi. Bydd y geiriau a'r dots ar gael trwy'r wefan (www.cwpwrddnansi.com) - felly cadwch llygaid mas amdanynt.
Cofiwch i gadw mewn cyswllt trwy:
- Trydar: @CwpwrddNansi
- Facebook: http://www.facebook.com/groups/359570747466957/?notif_t=group_r2j
- Gwefan: www.cwpwrddnansi.com
- Gwefan Gwdihw: www.gwdihw.co.uk

No comments:
Post a Comment