Clwb Ifor Bach yn cyflwyno
Taith Gwerin Gyfoes o Gymru
gyda:
Cowbois Rhos Botwnnog
The Gentle Good (band llawn & The Mavron String Quart
Georgia Ruth
Dyddiadau’r Daith
Hydref
* Iau 18, Y Neuadd Les, Ystradgynlais | 01639 843163 | thewelfare.co.uk
* Gwe19 Muni, Pontypridd | 08000147111 | rct-arts.org.uk
* Sad 20, Sefydliad y Glowyr, Coed Duon | 01495 227206 | blackwoodminersinstitute.com
* Maw 23, Theatr Felinfach | 01570 470697 | theatrfelinfach.com
* Iau/25, Hafren, Y Drenewydd | 01686 614555 | thehafren.co.uk
* Gwe26, Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog | 01978 841300 | stiwt.co.uk
Tachwedd
* Iau01, Neuadd Dwyfor, Pwllheli | 01758 704088
* Gwe02, Galeri, Caernarfon | 01286 685222 | galericaernarfon.com
Closiwn yn nes nag o'r blaen, i deimlo hen wreiddiau'n troelli o'r newydd. Mae Cowbois Rhos Botwnnog, The Gentle Good a Georgia Ruth; artistiaid gwerin gyfoes gorau Cymru, yn camu ar lwyfan y theatr.
Ffurfiwyd Cowbois Rhos Botwnnog yn 2005 gan dri brawd o Ben Llŷn; Iwan, Dafydd ac Aled Hughes. Dros dreigl amser, mae’r band bellach yn saith aelod, ac mae’r sŵn bellach wedi gwyro o fod yn ganu gwlad pync-aidd, i fod yn ganu gwlad a gwerin hiraethus, llawn harmoni. Mae eu halbwm newydd, ‘Draw Dros y Mynydd’, newydd gyrraedd y siopau, hyn yn dilyn derbyniad gwresog eu hail albwm, ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ (Sbrigyn Ymborth). Mae eu gyrfa gerddorol wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnwys gwahoddiad i chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Dinefwr a No Direction Home, i enwi dim ond tri o’u cyraeddiadau.
Mae Gareth Bonello, y dyn `tu ôl i’r enw The Gentle Good, yn medru dal hudoliaeth rhyw hen hiraeth Cymreig yn ei holl gynnyrch. Mae’n bwydo ei ganeuon gwreiddiol â holl faeth caneuon gwerin draddodiadol, ac eto’n cynnig rhywbeth newydd. Mae Gareth wedi rhyddhau tair record ar label Gwymon; Yr EP ‘Dawel Disgyn’ (2007), yr albwm cyntaf ‘While you slept I went out walking’ (2008), a’r ail albwm ‘Tethered for the Storm’ (2011), ble clywir cyfraniad cynnes y Mavron Quartet. Wedi derbyn safle artist preswyl trwy’r PRSF a’r Cyngor Prydeinig, mae Gareth newydd ddychwelyd o Chengdu yn Tsieina, ble bu’n ymchwilio a recordio albwm newydd wedi seilio ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru a Tsieina, prosiect a fydd yn sicr o ddod a dimensiwn newydd i’w gerddoriaeth. Er yn aml yn perfformio ar ben ei hun, mi fydd 10 aelod i’w fand ar gyfer y daith gan gynnwys y pedwarawd llinynnol The Mavron Quartet.
Merch y Gorllewin yw Georgia Ruth yn wreiddiol; merch y môr sy’n hoff o gadw’i thraed a’i thelyn yn sych. Yn ystod ei phlentyndod yn Aberystwyth, dechreuodd ddarganfod, ar yr un llaw, melanganu Mary Hopkin, Plethyn a Leah Owen; ac ar y llall, Leonard Cohen a Joni Mitchell. Bellach, a hithau’n 23 oed, mae Georgia wedi rhyddhau EP arbennig ar finyl 10” trwy label Gwymon, o’r enw ‘In Luna’ a dewiswyd trac arall ganddi, fersiwn o hen gân werin Americanaidd, ‘Old Blue’, fel ‘MPFree of the Day’ ar raglen Lauren Laverne (6Music). Mi fydd yn perfformio yn Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Gŵyl How The Light Gets In dros yr haf cyn mynd i’r stiwdio i recordio ei albwm cyntaf. Mae Georgia hefyd yn adnabyddus fel cyflwynwraig ar Radio Cymru a Radio Wales.
Rhyngddynt, mae’r artistiaid wedi perfformio yn rhai o wyliau cerddorol mwyaf Prydain, megis Glastonbury, Latitude a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, ond pwy allai ddymuno gwell llwyfan na hwn?
No comments:
Post a Comment