DATGANIAD I'R WASG
Khartoum a Port Sudan Chwefror 2012
2 CHWEFROR
Fel rhan o gyfres barhaus o waith datblygu gwyliau a meithrin gallu, bydd y British Council yn rhoi cymorth ariannol i ddau artist o'r DU, sef Ty a Pen Pastwn, ymweld â'r Sudan i berfformio a chydweithio ag artistiaid lleol yn Khartoum a Port Sudan yn ystod mis Chwefror. Y digwyddiad yn Port Sudan fydd y cyntaf o'i fath ers dros 30 mlynedd.
Bydd Ty hefyd yn cynnal gweithdai gydag artistiaid hip hop lleol newydd a fydd yn arwain at berfformiad a bydd Pen Pastwn yn cydweithio â'r cerddor Sidi Doshka o'r Sudan.
Grŵp o Gymru yw Pen Pastwn, a arweinir gan Richard James (cyn-aelod o Gorky’s Zygotic Mynci a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth Gŵyl Talacharn) a ategir gan restr hyblyg o gerddorion mwyaf talentog Cymru, gan gynnwys Gareth Bonello, Andy Fung, Edward Mugford ac Eugene Capper.
Mae Ty yn rapiwr a chynhyrchydd o Lundain sydd wedi cael clod yn rhyngwladol. Fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Mercury am ei albwm ‘Upwards’ ac mae wedi gweithio gyda llawer o artistiaid eraill yn y gorffennol gan gynnwys Estelle, Scratch Perverts, Talib Kweli, Black Twang, Arrested Development, a Soweto Kinch.
Dyddiadau:
Dydd Iau 2il Chwefror - Ty yn Corniche, Port Sudan
Dydd Gwener 3ydd Chwefror - Pen Pastwn yn Corniche Port Sudan
Dydd Sul 5ed Chwefror - Pen Pastwn yn Amgueddfa Genedlaethol Khartoum
Dydd Llun 6ed Chwefror - Ty yn Amgueddfa Genedlaethol Khartoum
Bu'r British Council yn Sudan yn datblygu rhaglen o ddigwyddiadau cerdd a gweithdai meithrin gallu ers dros ddwy flynedd. Rhoddodd y digwyddiad hwn, a ddechreuodd drwy gynnal cyfres lwyddiannus o ddigwyddiadau misol o'r enw 'Words and Pictures' (WaPi), lwyfan i dalent ifanc newydd ar gyfer hip hop, bandiau tanddaearol, y gair llafar a chelfyddydau creadigol.
Gwnaethom barhau i ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau cerdd, gweithdai a rhaglenni hyfforddi sgiliau mewn partneriaeth â'n hasiantaethau diwylliannol eraill megis Sefydliad Diwylliannol Ffrainc, Sefydliad Goethe a'r Weinyddiaeth Diwylliant (yn y Sudan) Cynhaliwyd y cyntaf o'r digwyddiadau cerdd hyn ym mis Mawrth yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Khartoum pan deithiodd dau grŵp o'r DU, sef Akala a Les Triaboliques, i'r Sudan i berfformio a chynnal gweithdai.
Ym mis Hydref 2011, ymwelodd seren newydd cerddoriaeth werin Prydain Sam Lee (a Ffrindiau) â'r Sudan i berfformio yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Khartoum, a oedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers 13 blynedd. Yn ogystal â pherfformio set o'i ddeunydd ei hun, bu Sam hefyd yn gweithio ar berfformiad cydweithredol gyda dau o gerddorion mwyaf talentog y Sudan, sef Omer Ihsas a Dr Alfateh Hussain.
DIWEDD/
Nodiadau i Olygyddion
CYSWLLT Y CYFRYNGAU
Suma Pugh
Ffôn: 029 20924354
Ffôn Sym: 07540494716
E-bost: suma.pugh@britishcouncil.org
Rhagor o wybodaeth am y British Council
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y DU dros gyfleoedd addysgol a chydberthnasau diwylliannol. Rydym yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. Rydym yn gweithio mewn dros 100 o wledydd ym maes y celfyddydau, addysg a Saesneg ac yn ystod 2010/11 buom yn ymwneud wyneb yn wyneb â 30 miliwn o bobl, gan gyrraedd 578 miliwn o bobl. Mae gennym 6,800 o aelodau o staff ledled y byd. £693 miliwn oedd cyfanswm ein trosiant yn 2010/11, ac o'r swm hwn daeth £190 miliwn mewn cymorth grant gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Cynhyrchwyd y gweddill drwy weithgareddau masnach megis addysgu Saesneg. Am bob £1 o arian trethdalwyr a fuddsoddwn, rydym yn ennill £2.65 o incwm ychwanegol. Am ragor o wybodaeth ewch i: www.britishcouncil.org
No comments:
Post a Comment